Teacher Booker's Logo
English

Pwll Cyflenwi Cenedlaethol Cymru

Welsh Government Logo
cofrestru staff cyflenwi

bwerir gan

Teacher Booker's Logo

Pwll Cyflenwi Cenedlaethol Cymru

Welsh Government Logo
cofrestru staff cyflenwi

bwerir gan

Beth yw Pwll Cyflenwi Cenedlaethol Cymru?

Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ddatblygu model cynaliadwy ar gyfer cyflogi athrawon cyflenwi, â gwaith teg wrth wraidd y model hwnnw. Cytunodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ar gynlluniau i gaffael a gweithredu platfform archebu ar-lein ar gyfer pob ysgol a gynhelir a phob awdurdod lleol sydd am gyflogi staff cyflenwi yn uniongyrchol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi partneru â Teacher Booker, sy’n blatfform ar-lein, i greu Pwll Cyflenwi Cenedlaethol Cymru, gan roi cyfleoedd gwaith cyflenwi uniongyrchol i chi mewn ysgolion, ac sydd hefyd o bosibl yn eich gwneud yn gymwys ar gyfer y Cynllun Pensiwn Athrawon.

Os ydych chi’n Athro Cyflenwi, yn Gynorthwyydd Addysgu neu’n Oruchwyliwr Llanw sy’n chwilio am waith llanw yng Nghymru, cofrestrwch ar gyfer Pwll Cyflenwi Cenedlaethol Cymru isod.

Os oes angen cymorth arnoch gyda’r broses gofrestru ar Teacher Booker, cysylltwch â ni.

Teacher Booker - Schools Save Money Teacher Earn More

Athrawon & Staff Cymorth

Teacher Booker Logo for Teachers & Support Staff
cofrestrwch yma

Ysgolion

Teacher Booker Icon for Schools, MATs & LAs
cofrestru diddordeb

Oes gennych chi gyfrif gyda Teacher Booker yn barod?

Mewngofnodi Yma

Cwestiynau Cyffredin

Oes, mae angen i’r holl athrawon a staff cymorth fod wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg i ymuno â Phwll Cyflenwi Cenedlaethol Cymru. I gael rhagor o wybodaeth am Gyngor y Gweithlu Addysg a sut mae cofrestru, ewch i’w gwefan

Bydd Pwll Cyflenwi Cenedlaethol Cymru yn cael ei gyflwyno’n raddol ar draws pob Awdurdod Lleol yng Nghymru. Mae’r llwyfan yn fyw ar Ynys Môn yn barod a byddwn yn ei gyflwyno ar draws pob Awdurdod Lleol yng Nghymru yn y pen draw. Yn y cyfamser, rydyn ni’n gwahodd staff llanw i gofrestru ar y llwyfan a chreu eu proffil yn barod ar gyfer pan fydd y llwyfan yn cael ei gyflwyno yn ardal eu Hawdurdod Lleol dros y misoedd nesaf.

Mae’r Llywodraeth wedi talu am ffi trwydded y feddalwedd ar gyfer unrhyw ddefnyddwyr mewn ysgolion, athrawon llanw neu staff cymorth, felly bydd yn rhad ac am ddim i bawb.

Mae Teacher Booker yn gwmni meddalwedd, ac mae Llywodraeth Cymru wedi caffael ein llwyfan archebu a chydymffurfio i lansio Pwll Cyflenwi Cenedlaethol Cymru. Bydd hyn yn caniatáu i ysgolion hysbysebu swyddi heb dalu asiantaethau. Bydd athrawon llanw’n cael eu talu ar gyfradd well a bydd ganddynt fynediad at y Cynllun Pensiwn Athrawon (lle bo hynny’n berthnasol), heb gost ychwanegol i ysgolion.

Ar ôl i chi ddechrau’r broses gofrestru, bydd angen i chi lwytho dogfennau i fyny i’r tab Fetio. Mae’r rhain yn cynnwys:
– CV
– DBS (wedi’i roi yn ystod y 12 mis diwethaf neu ar y Gwasanaeth Diweddaru)
– ID llun
– Prawf o gyfeiriad
– Yr hawl i weithio
– Manylion cyswllt dau ganolwr (rhaid i un fod eich cyflogwr mwyaf diweddar)
Ar ôl i chi ofyn am adolygiad o ddogfennau fetio, a bod eich holl ddogfennau wedi cael eu prosesu, byddwch chi’n cael eich gwahodd i brawf sgrinio ar-lein.